Mae’r athrawon yn gwneud beth mae pobl wedi dweud wrthyn nhw ei wneud. Felly nid dim ond nhw sydd ar fai.
Bu pobl ifanc o Mess Up The Mess yn brysur yn archwilio diben y system addysg, ac yn datblygu syniadau creadigol ar gyfer y digwyddiad Democratiaeth Mawr ddydd Sadwrn yn Theatr y Glowyr Rhydaman. Ffocws y digwyddiad yw’r thema “Beth yw diben y system addysg?” a bydd yn gyfle i’r gynulleidfa archwilio syniadau ynghylch system addysg ddelfrydol yng Nghymru mewn ffordd greadigol a herio’r syniadau hyn.
Mae sgiliau bywyd yn eitha’ pwysig, oherwydd yn yr ysgol dydych chi ddim yn dysgu sut i dalu trethi neu ddelio gydag arian, mewn gwirionedd.
Bu pobl ifanc yn gweithio gyda 5 artist proffesiynol i greu gwaith a fydd yn archwilio’r materion ac yn ffrâm i’r ddadl fydd yn destun trafodaeth i’r gynulleidfa ym mherfformiad dydd Sadwrn:
- Ali Goolyad, Bardd ac Artist y Gair Llafar
- Chantal Erraoui, Actor a Pherfformiwr
- Daniel Morgan, Actor a Chyfarwyddwr
- Bethany Seddon, Dylunydd ac Artist Gweledol
- Chris Young, Artist Sain
Datblygu barddoniaeth gan archwilio addysg o bersbectifau gwahanol
Mae gweithgaredd yr wythnos hon yn rhan o Brosiect Democratiaeth Mawr National Theatre Wales sydd wedi gweithio ledled Cymru gan ddefnyddio’r celfyddydau i archwilio sut mae cymunedau’n gallu ailgreu’r cysylltiad gyda’r broses ddemocrataidd. Y penllanw fydd digwyddiad yn y Senedd ym mis Mawrth. Enillodd Mess Up The Mess y cyfle i weithio gyda National Theatre Wales ar y prosiect hwn trwy bleidlais ar-lein ym mis Medi.
O bersbectif rhiant neu athro, dw i am iddyn nhw ddeall yn ein cenhedlaeth ni… fod yna lawer mwy o straen yn cael ei osod arnom ni na welwyd gyda chenedlaethau’r gorffennol. Nid oherwydd addysg yn unig, ond oherwydd cymaint o bethau eraill fel pwysau cyfoedion a chyfryngau cymdeithasol…
Ar ddydd Sadwrn 14 Tachwedd 2015, bydd y bobl ifanc yn perfformio’r gwaith y maen nhw wedi ei greu, ac yn hwyluso trafodaeth a dadl gyda’r gynulleidfa yn Theatr y Glowyr Rhydaman. I gadw’ch lle, neu am fwy o wybodaeth, rhowch glic ar nationaltheatrewales.org neu cysylltwch â Gavin Porter ar 07889 757 662 gavinporter@nationaltheatrewales.org.











