Mae Arweinwyr Cyfoedion yn gwrs hyfforddiant preswyl, achrededig, sy’n cynnig cyfleoedd i bobl ifanc 16-25 oed ddatblygu eu sgiliau, magu hyder a chael profiad o wirfoddoli. Fel arfer, cynhelir yr hyfforddiant dros hanner tymor yr Hydref.
Caiff yr hyfforddiant ei redeg trwy gwrs preswyl cyfranogol sy’n llawer o hwyl, ac mae’n cynnwys gemau theatr a heriau adeiladu tîm.
Yn ystod y cwrs preswyl, cefnogwn bobl ifanc i gael hyfforddiant mewn:
- arweinyddiaeth a bod yn fodel rôl enghreifftiol i’ch cyfoedion
- sgiliau cyfathrebu, hyder a gwaith tîm
- iechyd a diogelwch
- asesiadau risg
- amddiffyn plant
- amrywioldeb a chynhwysiant
Dros y penwythnos, caiff pobl ifanc y cyfle i gynllunio gweithdy ar faterion ieuenctid, fel tîm ieuenctid, ar gyfer eu cyfoedion, ac i redeg y gweithdy a’i werthuso.
Hefyd, maen nhw’n ennill cymwysterau Lefel 1 Agored mewn Addysgu Cyfoedion
Ac yn olaf…
Fe fyddan nhw’n dod yn Wirfoddolwyr Arwain Cyfoedion cymwys, ac yn cael rôl gryfach o fewn y cwmni a’r gymuned, trwy amrywiaeth eang o gyfleoedd gwirfoddoli.
Os hoffech chi fwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â Joanne Harries ar :
E-bost: joanne@messupthemess.co.uk

